Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
ddatblygu system genedlaethol i osod hysbysfyrddau cyhoeddus mawr
(tua 5x4 troedfedd fel enghraifft) ym mhob awdurdod lleol a ward
etholiadol Cymru, yn rhoi gwybod yn glir i bawb pwy yw eu
Cynghorwyr ac Aelodau Cynulliad lleol, ac yn cynnwys gwybodaeth
glir am sut, ble a phryd y gellir cysylltu a chyfarfod â hwy
i gyd, a gwybodaeth reolaidd a diweddar am ble a phryd y cynhelir
holl gyfarfodydd y cyngor lleol.
Mae gwir angen i bobl gael gwybod pwy yw eu cynrychiolwyr
gwleidyddol ar bob lefel, gyda hysbysfyrddau sy’n cynnwys
gwybodaeth glir ac eglur wedi’u lleoli’n ganolog ym
mhob awdurdod lleol a ward etholiadol Cymru. Gellid hefyd ystyried
rhoi oriau a lleoliadau cymorthfeydd, a chyfarfodydd y cyngor o
bosibl, i gael eu safoni ledled Cymru (e.e. 1-3pm ar ddydd Sadwrn
cyntaf pob mis mewn canolfannau cymunedol lleol ledled Cymru fel
enghraifft gyffredinol) fel y gall pobl ryngweithio a chysylltu
â’u cynrychiolwyr yn fwy effeithiol. Bydd hyn i gyd yn
annog dinasyddion Cymru i ymwneud yn fwy â democratiaeth eu
gwlad a’u cymunedau.
Prif ddeisebydd: Cymru Sofren
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 14 Mai 2013
Nifer y llofnodion : 11